AMDANOM NI
AMDANOM NI
Mae GCACAF yn dwyn ynghyd gwasanaethau arbenigol er mwyn ei gwneud yn hawdd i unrhyw un yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sydd â phryderon am eu defnydd nhw o alcohol a chyffuriau, neu ddefnydd rhywun arall o alcohol a chyffuriau, i gael help, cyngor a gwybodaeth.
Mae ein gwasanaethau cyfrinachol ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim.
CYSYLLTWCH Â NI YN Y FFORDD YR YDYCH YN DYMUNO
Ffoniwch ni am ddim ar 0300 300 7000 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener – y tu allan i’r oriau hyn, rhoddir cysylltiadau amgen i chi er mwyn cael cymorth, byddwch yn gallu gadael neges neu ofyn i rywun eich ffonio’n ôl. Gallwch hefyd gysylltu trwy gyfleuster sgwrsio byw, WhatsApp, ein sianelau cymdeithasol neu e-bost info@cavdas.co.uk.