Cyfleoedd gwirfoddoli

Cyfleoedd gwirfoddoli

Efallai y byddwch yn ystyried ymuno â ni fel gwirfoddolwr.

Os ydych chi wedi cael problemau sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol ac os ydych yn dymuno cynorthwyo pobl arall, efallai yr hoffech ystyried ymuno â ni fel gwirfoddolwr cymheiriaid.

Gweler y wybodaeth yn y gwymplen isod neu cysylltwch â ni ar 0300 300 7000 neu anfonwch e-bost at info@cavdas.com a holwch am gyfleoedd gwirfoddoli.

Mae Voices Action Change (VAC) yn grymuso unigolion a’u teuluoedd a’u ffrindiau sy’n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau i wneud newidiadau cadarnhaol i wasanaethau cymorth alcohol a chyffuriau. Byddech yn cael cais i roi adborth a syniadau, ac yn cael eich cynorthwyo i wneud hynny, ac i gydweithio gyda darparwyr gwasanaeth, ymchwilwyr a swyddogion y llywodraeth i gyfrannu at gynllun a darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol.

Rydym yn cynnig hyfforddiant a chymorth i gynrychiolwyr VAC, a bydd cyfleoedd amrywiol i rannu profiadau a chynnig cymorth i eraill hefyd.

Os ydych yn dymuno bod yn rhan o sicrhau bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau defnyddio sylweddau a’u hanwyliaid wrth wraidd y broses o drawsnewid gwasanaethau defnyddio sylweddau er gwell, cysylltwch â ni heddiw.

Mae cymorth gan gymheiriaid yn rhan hynod o bwysig o’n gwasanaethau. Mae gan ein gwirfoddolwyr brofiad o broblemau defnyddio alcohol a chyffuriau, felly gallant gynnig cymorth ac arweiniad gwerthfawr er mwyn helpu eraill sy’n adfer.

Mae sawl ffordd o gymryd rhan wrth wirfoddoli fel cymheiriaid gyda GCACAF, gan gynnwys hwyluso grwpiau, gweinyddu a chynnig cymorth mewn canolfan, cyfeillio ac allgymorth.

Mae ein gwirfoddolwyr sy’n gymheiriaid yn dweud wrthym eu bod yn cael cryn fudd o’r profiad hefyd, gan gynnwys datblygiad personol a phroffesiynol, helpu eraill, a bod yn rhan o’r gwaith o greu rhwydwaith cefnogol o gymheiriaid.

banner image

CYMRYD RHAN

Rydym yn cynnig hyfforddiant a chymorth i gynrychiolwyr VAC, a cheir cyfleoedd amrywiol i rannu profiadau a chynnig cymorth i eraill hefyd.

Holwch heddiw am gyfleoedd gwirfoddoli gan gymheiriaid.