Rhaglenni ymwybyddiaeth i bobl ifanc mewn lleoliadau addysgol a chymunedol

Rhaglenni ymwybyddiaeth i bobl ifanc mewn lleoliadau addysgol a chymunedol

Mae ein cyrsiau yn amrywio o gyrsiau er mwyn codi ymwybyddiaeth o alcohol a chyffuriau, i sut i helpu rhywun i leihau eu risgiau pan fyddant yn defnyddio cyffuriau neu alcohol (lleihau niwed) i iechyd rhywiol.

Rydym yn darparu hyfforddiant arbenigol, i’r partneriaid mewn meysydd megis tai, iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol fel arfer, a gallwn ddarparu hyfforddiant yn eich safle chi neu yn ein safle ni.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion hyfforddiant.

Rydym yn dechrau cynnal cyrsiau agored hefyd, y gall pobl ymuno â nhw am ddim, ac mae modd archebu’r rhain ar-lein.

Nid yw rhai pobl yn dymuno rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ond gallant leihau eu risgiau pan fyddant yn defnyddio. Nid yn unig y mae ein tîm lleihau niwed arbenigol yn darparu’r cymorth hwn, ond mae hefyd yn darparu cyngor a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol unigol a sefydliadau ynghylch sut i nodi risgiau a’u lleihau.

Mae ein cyrsiau lleihau niwed yn cynnwys hyfforddiant Naloxone; ymwybyddiaeth o ddefnyddio sylweddau; darparu nodwyddau a chwistrellau; profion syml am Hepatitis B, Hepatitis C a HIV; iechyd rhywiol a chael rhyw dan ddylanwad cyffuriau (cemryw).

Mae ein tîm arbenigol yn darparu gweithdai gyda grwpiau o bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau ac mewn lleoliadau ieuenctid cymunedol eraill hefyd. Darparir y rhain i gyd am ddim a chânt eu teilwra ar gyfer grwpiau mawr, hyd at grwpiau blwyddyn cyfan, neu grwpiau llai o faint a nodir, ac mae modd eu darparu y tu allan i oriau swyddfa yn ôl y gofyn. Rydym yn darparu ymgyrchoedd addysg ac ymwybyddiaeth hefyd ac yn ymuno â digwyddiadau cymunedol fel rhan o hyn.

banner image

SUT Y GALLWN HELPU

This can be used to signpost users to sign up for appointments. The quick, brown fox jumps over a lazy dog. DJs flock by when MTV ax quiz prog. Junk MTV quiz graced by fox whelps. Bawds jog, flick quartz, vex nymphs. Waltz, bad nymph, for quick jigs vex! Fox nymphs grab quick-jived waltz.