Sut ydym yn cynorthwyo plant a phobl ifanc

Sut ydym yn cynorthwyo plant a phobl ifanc

Gall pobl ifanc dan 18 oed gysylltu i gael cymorth yn uniongyrchol neu gallwch gysylltu â ni ar eu rhan ar ôl sicrhau eu caniatâd.

Rydym hefyd yn darparu cymorth arbenigol i bobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd yn y system cyfiawnder troseddol ac yn gweithio gydag ysgolion, colegau a chymunedau i ddarparu gweithdai codi ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch defnyddio sylweddau.

Gweler y wybodaeth yn y gwymplen isod neu cysylltwch

Arweinir ein gwaith gyda phobl ifanc gan yr unigolyn a gallwn weld lle y maent yn teimlo’n fwyaf cyffyrddus – gartref, yn yr ysgol, mewn clwb ieuenctid neu unrhyw le yn y gymuned.

Gallai hyn fod ar ffurf darparu ychydig gymorth yn y tymor byr, gydag un i dair sesiwn un-i-un sy’n ymwneud â lleihau niwed, cyngor ac addysg, a phan fo hynny’n briodol, atgyfeirio at wasanaethau cymorth eraill. Gallwn gynorthwyo mewn ffordd fwy strwythuredig hefyd, gan ddarparu triniaeth dros gyfnod hwy, lle y byddai gan y person ifanc gynllun gofal yn cynnwys nodau wedi’u gosod ganddynt i weithio tuag atynt gyda chymorth.

Rydym yn cynorthwyo pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed hefyd, er mwyn eu tywys ymlaen i’n gwasanaethau i oedolion neu er mwyn cwblhau’r gwaith neu’r nodau a osodwyd ganddynt cyn troi’n 18 oed.

Rydym yn helpu pobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid neu sydd mewn perygl o gael cyswllt â’r system honno.

Mae gennym dimau wedi’u lleoli gyda gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid Caerdydd a’r Fro ac yn y tîm Digartrefedd Aml-ddisgyblaethol yng Nghaerdydd, sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd mewn llety dros dro.

Mae’r gweithwyr hyn yn cynnig cymorth a gwasanaethau galw heibio i’r holl hostelau yn ardal Caerdydd.

Yn ogystal, mae ein tîm arbenigol yn darparu gweithdai gyda grwpiau o bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau ac mewn lleoliadau ieuenctid cymunedol eraill.

Fe’u darparir i gyd yn rhad ac am ddim ac wedi’u teilwra ar gyfer grwpiau mawr, hyd at grwpiau blwyddyn cyfan, neu grwpiau llai a nodir, ac mae modd eu cyflwyno y tu allan i oriau swyddfa yn ôl y gofyn.

Rydym yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth ac ymgyrchoedd addysg hefyd, ac yn ymuno â digwyddiadau cymunedol fel rhan o hyn.

banner image

Ei gwneud yn hawdd i chi gael help

Rydym yn bodoli i sicrhau bod pob unigolyn yn gallu cael y cymorth, y wybodaeth a'r cyngor y mae ei angen arnynt ynghylch eu defnydd nhw o gyffuriau ac alcohol, neu ddefnydd rhywun arall o gyffuriau ac alcohol. Rydym yn cynorthwyo pob grŵp oedran a gall pobl gysylltu â ni yn uniongyrchol neu trwy atgyfeiriad proffesiynol.

Rydym yn galw hwn yn ddull gweithredu 'Dim drws anghywir': sut bynnag a phryd bynnag y bydd pobl yn cysylltu am unrhyw bryderon ynghylch cyffuriau ac alcohol, byddwn yn gwybod sut i helpu.