Cymorth wedi'i deilwra

Cymorth wedi'i deilwra

Mae ein holl wasanaethau yn canolbwyntio ar eich gofynion unigryw chi, ac yn cael eu cynllunio mewn partneriaeth â chi. Byddwn yn gweithio gyda chi [dolen i’r dudalen sut ydym yn gweithio gyda chi] i ddeall eich heriau a’ch nodau a datblygu eich cynllun unigol y byddwn yn ei adolygu’n rheolaidd gyda chi.

Bydd cymorth ar gael i chi gan bobl sydd wedi cael profiadau tebyg a byddwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddod ynghyd yn gymdeithasol i feithrin perthnasoedd sy’n cynorthwyo’r newidiadau yr ydych yn dymuno eu gwneud.

Pan fyddwch yn barod, gallwn eich cyflwyno i gyfleoedd gwirfoddoli newydd hefyd, a chynnig cyngor a chymorth parhaus, y byddant oll wedi’u teilwra i’ch gofynion.
Gweler y wybodaeth yn y gwymplen isod neu cysylltwch.

Rydym yn cynnig cymorth gan gymheiriaid a thriniaeth un-i-un. Gall hwnnw fod wyneb-yn-wyneb yn un o’n lleoliadau neu dros y ffôn, mewn neges destun, neges e-bost neu alwad fideo – beth bynnag sy’n gweithio i chi.

Mae ein tîm cymheiriaid mewn sefyllfa dda i’ch helpu i wneud newidiadau, gan ddatblygu a chynnal eich adferiad.

Gallant eich helpu i ymgysylltu â thriniaeth yn ôl y gofyn hefyd.

Rydym yn cynnig amrediad o raglenni cymorth grŵp strwythuredig i bobl yn ystod pob cam o’u hadferiad. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgarwch atal ailgychwyn, cwrs cyfranogol llawn ac wedi’i arwain gan gymheiriaid a gynlluniwyd i’ch helpu i gynnal eich adferiad, beth bynnag mae hynny yn ei olygu i chi.

Rydym yn cynnal rhaglen grŵp ymddygiadol gwybyddol hefyd ar gyfer y rhai sydd wedi ymwrthod yn ddiweddar er mwyn cynorthwyo eu hadferiad parhaus, ac mae hon yn ddelfrydol os ydych chi’n paratoi i symud ymlaen o ddarpariaeth triniaeth ffurfiol.

Mae hwn yn llai strwythuredig ac yn fwy cymdeithasol, a gallwch alw heibio unrhyw bryd i’n hyb mynediad agored i gael cymorth a chyfarfod eraill yn ein cymuned adfer.

Mae’n lle cyfeillgar a chyfrinachol lle y gallwch siarad am yr hyn sydd ar eich meddwl gydag eraill, gan gynnwys grwpiau cymorth cymheiriaid. A hefyd, mae gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd ac eang ar gael ar-lein a wyneb yn wyneb. Mae’r amserlen ar gael yma

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu galwch heibio Y Ganolfan Adfer – 218 Heol Orllewinol y Bont-faen, Caerdydd CF5 1GX

banner image

SUT Y GALLWN HELPU

Rydym yn cynorthwyo pobl i leihau'r risgiau y maent yn eu cymryd pan fyddant yn defnyddio alcohol neu gyffuriau gymaint ag y bo modd; galluogi'r rhai sy'n dymuno symud neu barhau i gadw i ffwrdd o'u defnyddio; ac addysgu ynghylch defnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae gennym dimau o weithwyr proffesiynol sy'n meddu ar arbenigedd penodol a chymheiriaid y mae eu profiad nhw o ddefnyddio alcohol a chyffuriau yn eu rhoi mewn sefyllfa dda iawn i gynnig cymorth.

I gael cymorth, cysylltwch â ni yn uniongyrchol neu gallwch wneud apwyntiad trwy ein system archebu.